Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (30) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau.
14.19
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y 7 cwestiwn.
14.36
3. Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad
NDM4849 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad – Gorchmynion adran 109’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011;
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.37
4. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012/13
NDM4851 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13, fel y pennir yn Nhabl 5 o’r ddogfen “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynigion Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2011 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.46
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4852 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu;
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy:
a. gwella seilwaith a sgiliau;
b. darparu eglurder ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi;
c. hybu mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru; a
3. Yn nodi y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael arian Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am y trydydd tro.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
15.53
6. Dadl Plaid Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4850 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac
2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
12 |
5 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
16.57
Cyfnod Pleidleisio
16.59
NDM4853 Lynne Neagle (Tor-faen):
Tynnu’r plwg – Effaith torri’r tariff cyflenwi trydan yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 17.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2011